7 dywedodd:“Gwae fi! Pam y'm ganwyd i welddinistr fy mhobl a dinistr y ddinas sanctaidd,ac i drigo yno pan roddwyd hi yn nwylo gelynion,a'i chysegr yn nwylo estroniaid?
8 Aeth ei theml fel rhywun a ddianrhydeddwyd,
9 a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail;lladdwyd ei babanod yn ei heolydd,a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.
10 Pa genedl na feddiannodd ei phalasau hi,ac na wnaeth hi'n ysbail?
11 Anrheithiwyd ei holl harddwch hi,ac o fod yn rhydd, aeth yn gaethferch.
12 Ac wele, ein cysegr a'n ceindera'n gogoniant wedi eu troi'n ddiffeithwch;y Cenhedloedd a'u halogodd.
13 Pa fudd yw i ni bellach ddal yn fyw?”