1 Yna cododd ei fab Jwdas, a elwid Macabeus, yn lle ei dad.
2 Rhoddodd ei holl frodyr gymorth iddo, ac felly hefyd bawb a fu'n ganlynwyr i'w dad, a daliasant ati â llawenydd i ymladd y frwydr dros Israel.
3 Helaethodd ogoniant ei bobl.Gwisgodd ddwyfronneg fel cawr,ac ymwregysu â'i arfau rhyfel.Cynlluniodd frwydrau,gan amddiffyn ei fyddin â'i gleddyf.
4 Yr oedd fel llew yn ei gampau,fel cenau llew yn rhuo am ysglyfaeth.
5 Chwiliodd am y rhai digyfraith a'u herlid,a difa'r rhai a darfai ar ei bobl.
6 Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw,a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni.Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.
7 Parodd ddicter i frenhinoedd lawerond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.