12 Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.
13 Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel,
14 dywedodd, “Gwnaf enw i mi fy hun, ac enillaf ogoniant yn y deyrnas trwy ryfela yn erbyn Jwdas a'i ganlynwyr, sy'n diystyru gorchymyn y brenin.”
15 Aeth i fyny â chwmni cryf o ddynion annuwiol gydag ef yn gymorth, i ddial ar blant Israel.
16 Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan.
17 Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.”
18 Atebodd Jwdas, “Y mae'n ddigon hawdd i lawer gael eu cau i mewn gan ychydig, ac nid oes gwahaniaeth yng ngolwg y nef p'run ai trwy lawer neu trwy ychydig y daw gwaredigaeth.