24 Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.
25 Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.
26 Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.
27 Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn.
28 Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid.
29 Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf.
30 Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arian—fel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaen—ar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen.