46 Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel.
47 Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad.
48 Agorasant sgrôl y gyfraith, i chwilio am yr hyn yr oedd y Cenhedloedd yn ei gael gan ddelwau eu duwiau.
49 Daethant â dillad yr offeiriaid hefyd, a'r blaenffrwythau a'r degymau, a chyflwyno'r Nasireaid a oedd wedi cyflawni eu haddunedau.
50 Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy?
51 Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.
52 A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.