50 Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy?
51 Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.
52 A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.
53 Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”
54 Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.
55 Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.
56 A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.