7 Parodd ddicter i frenhinoedd lawerond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.
8 Tramwyodd drwy drefi Jwdagan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir.Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.
9 Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear,a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.
10 Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod.
11 Trawodd ef a'i ladd; archollwyd a lladdwyd llawer o filwyr y gelyn, a ffodd y gweddill.
12 Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.
13 Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel,