20 Gwelsant fod eu byddin ar ffo, a bod eu gwersyll ar dân, oherwydd yr oedd y mwg a welid yn dangos beth oedd wedi digwydd.
21 O ganfod hyn dychrynasant yn ddirfawr, a phan welsant hefyd fyddin Jwdas yn y gwastadedd yn barod i'r frwydr,
22 ffoesant oll i dir y Philistiaid.
23 Yna dychwelodd Jwdas i ysbeilio'r gwersyll, a chymerasant lawer o aur ac arian a sidan glas a phorffor o liw'r môr, a golud mawr.
24 Dychwelsant dan ganu mawl a bendithio'r nef, oherwydd ei fod yn dda a'i drugaredd dros byth.
25 A'r dydd hwnnw bu ymwared mawr i Israel.
26 A dyma'r rheini o'r estroniaid oedd wedi dianc yn mynd a mynegi i Lysias y cwbl oedd wedi digwydd.