22 ffoesant oll i dir y Philistiaid.
23 Yna dychwelodd Jwdas i ysbeilio'r gwersyll, a chymerasant lawer o aur ac arian a sidan glas a phorffor o liw'r môr, a golud mawr.
24 Dychwelsant dan ganu mawl a bendithio'r nef, oherwydd ei fod yn dda a'i drugaredd dros byth.
25 A'r dydd hwnnw bu ymwared mawr i Israel.
26 A dyma'r rheini o'r estroniaid oedd wedi dianc yn mynd a mynegi i Lysias y cwbl oedd wedi digwydd.
27 Pan glywodd yntau, bwriwyd ef i ddryswch a digalondid, am nad oedd Israel wedi dioddef yn unol â'i fwriad ef, ac am iddo fethu dwyn i ben yr hyn yr oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo.
28 Ond yn y flwyddyn ganlynol casglodd ynghyd drigain mil o wŷr traed dethol a phum mil o wŷr meirch, i barhau'r rhyfel yn erbyn yr Iddewon.