55 Syrthiodd yr holl bobl ar eu hwynebau gan addoli a bendithio'r nef, a barodd lwyddiant iddynt.
56 Buont yn dathlu ailgysegru'r allor am wyth diwrnod, ac yn offrymu poethoffrymau mewn llawenydd, ac yn aberthu aberth gwaredigaeth a mawl.
57 Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.
58 Bu llawenydd mawr iawn ymhlith y bobl, a dilëwyd y gwaradwydd a ddygasai'r Cenhedloedd arnynt.
59 Ordeiniodd Jwdas a'i frodyr a holl gynulleidfa Israel fod dathlu dyddiau ailgysegru'r allor yn eu hamserau priod bob blwyddyn am wyth diwrnod â llawenydd a gorfoledd, gan ddechrau ar y pumed dydd ar hugain o'r mis Cislef.
60 Yn yr amser hwnnw amgylchynasant Fynydd Seion â muriau uchel ac â thyrau cadarn, rhag i'r Cenhedloedd ddod a'u sathru i lawr fel yr oeddent wedi gwneud o'r blaen.
61 Yna gosododd Jwdas lu arfog yno i'w warchod, a chadarnhaodd Bethswra fel y byddai gan y bobl gaer gadarn gyferbyn ag Idwmea.