9 Cofiwch pa fodd yr achubwyd ein hynafiaid wrth y Môr Coch, pan oedd Pharo a'i lu yn eu hymlid.
10 Yn awr, felly, gadewch inni godi ein llef i'r nef, i weld a gymer Duw ein plaid a chofio'r cyfamod â'n hynafiaid, a dryllio'r fyddin hon o'n blaen heddiw.
11 Caiff yr holl Genhedloedd wybod wedyn fod yna un sy'n gwaredu ac yn achub Israel.”
12 Pan edrychodd yr estroniaid, a'u gweld yn dod yn eu herbyn,
13 aethant allan o'r gwersyll i'r frwydr. Canodd gwŷr Jwdas eu hutgyrn
14 a mynd i'r afael â hwy. Drylliwyd y Cenhedloedd a ffoesant i'r gwastadedd,
15 a syrthiodd y rhengoedd ôl i gyd wedi eu trywanu â'r cleddyf. Ymlidiasant hwy hyd at Gasara, a hyd at wastadeddau Idwmea, Asotus a Jamnia, a syrthiodd tua thair mil o'u gwŷr.