1 Clywodd Jwdas am fri'r Rhufeiniaid, eu bod yn gadarn a chryf, yn ffafriol tuag at bawb a ddôi i gynghrair â hwy, ac yn addunedu eu cyfeillgarwch i bwy bynnag a ymunai â hwy.
2 Ie, cadarn a chryf oeddent. Mynegwyd iddo am eu rhyfeloedd: y gwrhydri a ddangosent ymhlith y Galiaid—iddynt eu concro a'u gorfodi i dalu treth;
3 a'r hyn a wnaethant yn Sbaen trwy feddiannu'r mwyngloddiau arian ac aur oedd yno—
4 yr oeddent, trwy eu penderfyniad a'u dyfalbarhad, wedi concro'r holl wlad, er bod y lle ymhell iawn oddi wrthynt. Felly hefyd y brenhinoedd a oedd wedi dod o eithaf y ddaear i ymosod arnynt—yr oeddent wedi eu distrywio a'u taro â dinistr enfawr. Talai'r gweddill dreth flynyddol iddynt.
5 Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, a'r rhai a gododd yn eu herbyn—distrywiasant hwythau hefyd, a'u concro.
6 Yr oedd Antiochus Fawr brenin Asia, a oedd wedi mynd i ryfela yn eu herbyn gyda chant ac ugain o eliffantod a gwŷr meirch a cherbydau a llu mawr iawn, wedi ei ddryllio ganddynt hefyd.