11 Am y gweddill o'r teyrnasoedd a'r ynysoedd, cynifer ag a gododd yn eu herbyn erioed, difrodasant hwy a chaethiwo'u pobl.
12 Ond cadwasant gyfeillgarwch â'u cyfeillion ac â'r sawl oedd yn dibynnu arnynt. Felly gorchfygasant frenhinoedd agos a phell, ac yr oedd pawb a glywai am eu bri yn eu hofni.
13 Pwy bynnag y maent yn ewyllysio eu helpu i fod yn frenhinoedd, fe'u gwnânt yn frenhinoedd; a phwy bynnag y maent yn ewyllysio eu diorseddu, fe wnânt hynny. Y maent wedi eu dyrchafu'n uchel iawn.
14 Er hyn i gyd ni fyddai'r un ohonynt yn gwisgo coron nac yn ymddilladu â phorffor, i gael ei fawrhau trwy hynny;
15 ond adeiladasant senedd-dy iddynt eu hunain, a byddai tri chant ac ugain o seneddwyr beunydd yn ymgynghori'n gyson ynghylch y bobl, gyda golwg ar eu llywodraethu'n dda.
16 Y maent yn ymddiried bob blwyddyn mewn un dyn i reoli drostynt a bod yn feistr ar eu holl dir; y maent oll yn gwrando ar yr un dyn hwn, heb na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.
17 Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,