15 ond adeiladasant senedd-dy iddynt eu hunain, a byddai tri chant ac ugain o seneddwyr beunydd yn ymgynghori'n gyson ynghylch y bobl, gyda golwg ar eu llywodraethu'n dda.
16 Y maent yn ymddiried bob blwyddyn mewn un dyn i reoli drostynt a bod yn feistr ar eu holl dir; y maent oll yn gwrando ar yr un dyn hwn, heb na chenfigen nac eiddigedd yn eu plith.
17 Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,
18 a'u cael i godi'r iau oddi arnynt; oherwydd gwelsant fod teyrnas y Groegiaid yn llwyr gaethiwo Israel.
19 Teithiasant i Rufain, taith bell iawn, a mynd i mewn i'r senedd-dy a llefaru fel hyn:
20 “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”
21 Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,