7 Daliasant ef yn fyw, a gorchymyn iddo ef, ac i'r sawl a deyrnasai ar ei ôl, dalu treth drom, a rhoi gwystlon,
8 ac ildio gwlad India a Media a Lydia o blith eu tiriogaethau gorau. Cymerasant y rhain oddi wrtho a'u rhoi i'r Brenin Ewmenes.
9 Cynlluniodd y Groegiaid i ddod a'u difetha,
10 ond daeth hyn yn hysbys iddynt, ac anfonasant un cadfridog yn eu herbyn. Ymosodasant arnynt, a syrthiodd llawer o'r Groegiaid wedi eu clwyfo, a chaethgludodd y Rhufeiniaid eu gwragedd a'u plant. Ysbeiliasant hwy a meddiannu'r tir, dymchwel eu ceyrydd, a chaethiwo'u pobl hyd y dydd hwn.
11 Am y gweddill o'r teyrnasoedd a'r ynysoedd, cynifer ag a gododd yn eu herbyn erioed, difrodasant hwy a chaethiwo'u pobl.
12 Ond cadwasant gyfeillgarwch â'u cyfeillion ac â'r sawl oedd yn dibynnu arnynt. Felly gorchfygasant frenhinoedd agos a phell, ac yr oedd pawb a glywai am eu bri yn eu hofni.
13 Pwy bynnag y maent yn ewyllysio eu helpu i fod yn frenhinoedd, fe'u gwnânt yn frenhinoedd; a phwy bynnag y maent yn ewyllysio eu diorseddu, fe wnânt hynny. Y maent wedi eu dyrchafu'n uchel iawn.