1 Pan glywodd Demetrius fod Nicanor a'i lu wedi syrthio mewn brwydr, anfonodd Bacchides ac Alcimus eilwaith i wlad Jwda, ac asgell dde ei fyddin gyda hwy.
2 Teithiasant ar hyd y ffordd sy'n arwain i Gilgal a gwersyllu gyferbyn â Mesaloth yn Arbela. Cipiasant hi a lladd llawer o bobl.
3 Ym mis cyntaf y flwyddyn 152 gwersyllasant gyferbyn â Jerwsalem,
4 a mynd yn eu blaen oddi yno i Berea gydag ugain mil o wŷr traed a dwy fil o wŷr meirch.
5 Yr oedd Jwdas eisoes yn gwersyllu yn Elasa, a thair mil o wŷr dethol gydag ef.
6 Pan welsant fod rhifedi lluoedd y gelyn yn lluosog, dychrynasant yn ddirfawr; a gwrthgiliodd llawer o'r gwersyll, heb adael dim ond wyth cant ohonynt.
7 Pan welodd Jwdas fod ei fyddin wedi gwrthgilio, dan bwysau'r brwydro yn ei erbyn, torrodd ei galon, oherwydd nid oedd ganddo amser i'w hailgynnull.