16 Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.
17 Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.
18 Syrthiodd Jwdas yntau, ond ffoes y lleill.
19 Cymerodd Jonathan a Simon eu brawd Jwdas a'i gladdu ym meddrod ei hynafiaid yn Modin.
20 Wylasant ar ei ôl; gwnaeth holl Israel alar mawr amdano, a buont yn galarnadu am ddyddiau lawer, gan ddweud,
21 “Pa fodd y cwympodd y cadarn,gwaredwr Israel!”
22 Am weddill gweithredoedd Jwdas—y rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawredd—ni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.