21 “Pa fodd y cwympodd y cadarn,gwaredwr Israel!”
22 Am weddill gweithredoedd Jwdas—y rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawredd—ni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.
23 Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.
24 Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.
25 Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.
26 Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.
27 Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.