23 Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.
24 Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.
25 Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.
26 Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.
27 Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.
28 Yna ymgasglodd holl gyfeillion Jwdas a dweud wrth Jonathan,
29 “Er pan fu farw dy frawd Jwdas ni fu gŵr tebyg iddo i fynd i mewn ac allan yn erbyn ein gelynion ac yn erbyn Bacchides, ac i ddelio â'r gelynion o blith ein cenedl ni.