30 Yn awr, gan hynny, yr ydym ni heddiw wedi dy ddewis di i fod yn llywodraethwr ac yn arweinydd i ni yn ei le ef, i ymladd ein rhyfel.”
31 A derbyniodd Jonathan yr adeg honno yr arweinyddiaeth, a chymryd lle Jwdas ei frawd.
32 Pan ddeallodd Bacchides hyn ceisiodd ei ladd.
33 Cafodd Jonathan a'i frawd Simon a phawb oedd gydag ef wybod am hyn, a ffoesant i anialwch Tecoa, a gwersyllu ar lan llyn Asffar.
34 Clywodd Bacchides am hyn ar y Saboth, ac aeth ef a'i holl fyddin dros yr Iorddonen.
35 Anfonodd Jonathan ei frawd yn arweinydd y dyrfa, i ddeisyf ar ei gyfeillion y Nabateaid am gael gadael yn eu gofal hwy yr eiddo sylweddol oedd ganddynt.
36 Ond dyma deulu Jambri, brodorion o Medaba, yn dod allan a chipio Ioan a'r cyfan oedd ganddo, a'i ddwyn i ffwrdd gyda hwy.