48 Yna neidiodd Jonathan a'i wŷr i'r Iorddonen a nofio i'r lan arall; ond ni chroesodd y gelyn yr Iorddonen ar eu hôl.
49 Syrthiodd tua mil o wŷr Bacchides y diwrnod hwnnw.
50 Dychwelodd Bacchides i Jerwsalem, ac adeiladodd drefi caerog, ac iddynt furiau uchel a phyrth a barrau, yn Jwdea: y gaer sydd yn Jericho, ynghyd ag Emaus, Beth-horon, Bethel, Timnath Pharathon a Teffon.
51 Gosododd warchodlu ynddynt i aflonyddu ar Israel.
52 Cadarnhaodd hefyd dref Bethswra a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, a gosod ynddynt luoedd a chyflenwad o fwyd.
53 Cymerodd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, a'u gosod dan warchodaeth yn y gaer.
54 Yn y flwyddyn 153, yn yr ail fis, gorchmynnodd Alcimus dynnu i lawr fur cyntedd mewnol y deml. Distrywiodd felly waith y proffwydi. Ond yr union adeg y dechreuodd ei dynnu i lawr,