52 Cadarnhaodd hefyd dref Bethswra a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, a gosod ynddynt luoedd a chyflenwad o fwyd.
53 Cymerodd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, a'u gosod dan warchodaeth yn y gaer.
54 Yn y flwyddyn 153, yn yr ail fis, gorchmynnodd Alcimus dynnu i lawr fur cyntedd mewnol y deml. Distrywiodd felly waith y proffwydi. Ond yr union adeg y dechreuodd ei dynnu i lawr,
55 cafodd Alcimus drawiad a rhwystrwyd ei weithgarwch. Amharwyd ar ei leferydd, aeth yn ddiffrwyth, ac ni fedrai mwy lefaru gair na rhoi gorchmynion ynghylch ei stâd.
56 A bu farw Alcimus y pryd hwnnw mewn poen dirdynnol.
57 Pan welodd Bacchides fod Alcimus wedi marw dychwelodd at y brenin, a chafodd gwlad Jwda lonydd am ddwy flynedd.
58 Yna ymgynghorodd yr holl rai digyfraith gan ddweud, “Edrychwch, y mae Jonathan a'i wŷr yn llawn hyder ac yn trigo mewn llonyddwch; yn awr felly gadewch i ni gael Bacchides yn ôl, ac fe'u deil ef hwy i gyd mewn un noson.”