58 Yna ymgynghorodd yr holl rai digyfraith gan ddweud, “Edrychwch, y mae Jonathan a'i wŷr yn llawn hyder ac yn trigo mewn llonyddwch; yn awr felly gadewch i ni gael Bacchides yn ôl, ac fe'u deil ef hwy i gyd mewn un noson.”
59 Yna aethant a chydymgynghori ag ef.
60 Cychwynnodd yntau ar ei ffordd gyda llu mawr, a gyrrodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gefnogwyr yn Jwdea, yn eu hannog i ddal Jonathan a'i wŷr. Ond ni lwyddasant, oherwydd daeth eu bwriad yn hysbys.
61 Daliwyd tua hanner cant o wŷr y wlad a fu'n flaenllaw yn yr anfadwaith, a lladdwyd hwy.
62 Enciliodd Jonathan a'i wŷr, ynghyd â Simon, i Bethbasi yn yr anialwch; ailgododd y rhannau adfeiliedig ohoni, a'i chadarnhau.
63 Pan ddeallodd Bacchides hyn cynullodd ei holl fyddin ynghyd ac anfonodd wŷs at wŷr Jwdea.
64 Yna daeth a gwersyllu gyferbyn â Bethbasi; ymladdodd yn ei herbyn am ddyddiau lawer, gan godi peiriannau rhyfel.