1 Atebodd Job:
2 “Yn wir, chwi yw'r bobl,a chyda chwi y derfydd doethineb!
3 Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,ac nid wyf yn salach na chwi;yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
4 “Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
5 Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
6 Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7 “Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8 neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
9 Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gydmai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10 Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,ac anadl pob un meidrol.
11 Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12 “Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
13 Gan Dduw y mae doethineb a chryfder,a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
14 Os dinistria, nid adeiledir:os carchara neb, nid oes rhyddhad.
15 Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
16 Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
17 Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,a gwawdia farnwyr.
18 Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
19 Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,a lloria'r rhai sefydledig.
20 Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
21 Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,a gwanhau nerth y cryfion.
22 Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
23 Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
24 Diddyma farn penaethiaid y ddaear,a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
25 ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni;fe wna iddynt simsanu fel meddwon.”