Job 4 BCND

Y Cylch Areithio Cyntaf

1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2 “Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?Eto pwy a all atal geiriau?

3 Wele, buost yn cynghori llawerac yn nerthu'r llesg eu dwylo;

4 cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,a chadarnhau'r gliniau gwan.

5 Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.

6 Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,ac uniondeb dy fywyd yn obaith?

7 Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?

8 Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbulac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.

9 Difethir hwy gan anadl Duw,a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.

10 Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf;pydra dannedd y llewod ifanc.

11 Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth,a gwneir yn amddifad genawon y llewes.

12 ‘Daeth gair ataf fi yn ddirgel;daliodd fy nghlust sibrwd ohono

13 yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos,pan ddaw trymgwsg ar bawb.’

14 Daeth dychryn a chryndod arnaf,a chynhyrfu fy holl esgyrn.

15 Llithrodd awel heibio i'm hwyneb,a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.

16 Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd;yr oedd ffurf o flaen fy llygaid;bu distawrwydd, yna clywais lais:

17 ‘A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw,ac yn burach na'i Wneuthurwr?

18 Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision,ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,

19 beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai,a'u sylfeini mewn pridd,y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20 Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr,llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.

21 Pan ddatodir llinyn eu pabell,oni fyddant farw heb ddoethineb?’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42