1 Atebodd Job:
2 “Gwn yn sicr fod hyn yn wir,na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.
3 Os myn ymryson ag ef,nid etyb ef unwaith mewn mil.
4 Y mae'n ddoeth a chryf;pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?
5 Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,ac yn eu dymchwel yn ei lid.
6 Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,a chryna'i cholofnau.
7 Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,ac yn gosod sêl ar y sêr.
8 Taenodd y nefoedd ei hunan,a sathrodd grib y môr.
9 Creodd yr Arth ac Orion,Pleiades a chylch Sêr y De.
10 Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,a rhyfeddodau dirifedi.
11 “Pan â heibio imi, nis gwelaf,a diflanna heb i mi ddirnad.
12 Os cipia, pwy a'i rhwystra?Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’?
13 Ni thry Duw ei lid ymaith;ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.
14 Pa faint llai yr atebwn i ef,a dadlau gair am air ag ef?
15 Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid,dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.
16 Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb,ni chredwn y gwrandawai arnaf.
17 Canys heb reswm y mae'n fy nryllio,ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.
18 Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl,ond y mae'n fy llenwi â chwerwder.
19 “Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf;os barn, pwy a'i geilw i drefn?
20 Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun;pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
21 Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun;yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.
22 Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedafei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.
23 Os dinistr a ladd yn ddisymwth,fe chwardd am drallod y diniwed.
24 Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus,fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr.Os nad ef, pwy yw?
25 “Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr;y maent yn diflannu heb weld daioni.
26 Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn,fel eryr yn disgyn ar gelain.
27 Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn,newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’,
28 eto arswydaf rhag fy holl ofidiau;gwn na'm hystyri'n ddieuog.
29 A bwrw fy mod yn euog,pam y llafuriaf yn ofer?
30 Os ymolchaf â sebon,a golchi fy nwylo â soda,
31 yna tefli fi i'r ffos,a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.
32 “Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb,ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.
33 O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom,ac i osod ei law arnom ein dau,
34 fel y symudai ei wialen oddi arnaf,ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!
35 Yna llefarwn yn eofn.Ond nid felly y caf fy hun.”