1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2 “Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau?Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.
3 Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid,ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?
4 Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?A symudir y graig o'i lle?
5 “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.
6 Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.
7 Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.
8 Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.
9 Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.
10 Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.
11 Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,ac yn ymlid ar ei ôl.
12 Pan ddaw pall ar ei gryfder,yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.
13 Ysir ei groen gan glefyd,a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;
14 yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi,a'i ddwyn at Frenin Braw.
15 Bydd estron yn trigo yn ei babell,a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.
16 “Crina'i wraidd oddi tanodd,a gwywa'i ganghennau uwchben.
17 Derfydd y cof amdano o'r tir,ac nid erys ei enw yn y wlad.
18 Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch,ac erlidir ef o'r byd.
19 Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl,nac olynydd iddo yn ei drigfan.
20 Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged,ac arswydant yn y Dwyrain.
21 Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn;hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw.”