1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2 “A yw unrhyw un o werth i Dduw?Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?
3 A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn,neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?
4 Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu,ac yn dy ddwyn i farn?
5 Onid yw dy ddrygioni'n fawr,a'th gamwedd yn ddiderfyn?
6 Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,a dygi ymaith ddillad y tlawd.
7 Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,a gwrthodi fara i'r newynog.
8 Y cryf sy'n meddiannu'r tir,a'r ffefryn a drig ynddo.
9 Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw,ac ysigi freichiau'r amddifad.
10 Am hyn y mae maglau o'th gwmpas,a daw ofn disymwth i'th lethu,
11 a thywyllwch fel na elli weld,a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
12 “Onid yw Duw yn uchder y nefoeddyn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?
13 Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
14 Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’
15 A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?
16 Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.
17 Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?
18 Er iddo lenwi eu tai â daioni,pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.
19 Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;a gwatwerir hwy gan y dieuog.
20 Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,ac ysodd y tân eu llawnder.
21 “Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;trwy hyn y daw daioni i ti.
22 Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,a chadw ei eiriau yn dy galon.
23 Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd,a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,
24 os ystyri aur fel pridd,aur Offir fel cerrig y nentydd,
25 yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,ac yn arian pur.
26 Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog,a dyrchafu dy wyneb at Dduw.
27 Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy,a byddi'n cyflawni dy addunedau.
28 Pan wnei gynllun, fe lwydda iti,a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.
29 Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch;yr isel ei fryd a wareda ef.
30 Fe achub ef y dieuog;achubir ef am fod ei ddwylo'n lân.”