1 “Gwelodd fy llygad hyn i gyd;clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
2 Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau;nid wyf yn ddim salach na chwi.
3 Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad,a dadlau fy achos gyda Duw;
4 ond yr ydych chwi'n palu celwydd,a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
5 O na fyddech yn cadw'n ddistaw!Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.