17 Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,a rhowch glust i'm tystiolaeth.
18 Dyma fi wedi trefnu f'achos;gwn y caf fy nghyfiawnhau.
19 Pwy sydd i ddadlau â mi,i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
20 Gwna ddau beth yn unig imi,ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21 symud dy law oddi arnaf,fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22 yna galw arnaf ac atebaf finnau,neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23 Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.