20 Gwna ddau beth yn unig imi,ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21 symud dy law oddi arnaf,fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22 yna galw arnaf ac atebaf finnau,neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23 Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
24 Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,ac yn f'ystyried yn elyn iti?
25 A ddychryni di ddeilen grin,ac ymlid soflyn sych?
26 Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn,a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.