17 A all un sy'n casáu barn lywodraethu?A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
18 Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;
19 nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
20 Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;trenga'r cyfoethog, a diflannu;symudir ymaith y cryf heb ymdrech.
21 “Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,a gwêl ei holl gamau.
22 Nid oes tywyllwch na chadduglle y gall drwgweithredwyr guddio.
23 Nid oes amser wedi ei drefnui neb ddod i farn o flaen Duw;