30 i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?
31 A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?
32 A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?
33 A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?
34 “A fedri di alw ar y cwmwli beri i ddyfroedd lifo drosot?
35 A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?
36 Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?