36 Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?
37 Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,
38 nes bod llwch yn mynd yn llaid,a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?
39 “Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,a diwallu angen y llewod ifanc,
40 pan grymant yn eu gwâl,ac aros dan lwyn am helfa?
41 Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frân,pan waedda'r cywion ar Dduw,a hedfan o amgylch heb fwyd?”