1 Daeth Abeia yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd.
2 Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Michaia, merch Wriel o Gibea.Dyma ryfel yn dechrau rhwng Abeia a Jeroboam.
3 Aeth Abeia allan i ryfel gyda byddin o filwyr dewr. Roedd ganddo bedwar can mil o ddynion arbennig. Dyma Jeroboam yn dod allan yn ei erbyn gyda byddin o wyth can mil o filwyr profiadol dewr.
4 Dyma Abeia'n sefyll ar Fynydd Semaraïm sydd ym mryniau Effraim, a dweud, “Jeroboam ac Israel gyfan, gwrandwch arna i.
5 Onid ydych chi'n gwybod bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi ymrwymo i roi'r frenhiniaeth i Dafydd a'i ddisgynyddion am byth? – a fydd hynny byth yn newid.
6 Ond mae Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, wedi gwrthryfela yn erbyn ei feistr.
7 Casglodd griw o rapsgaliwns diwerth o'i gwmpas. Yna dyma fe'n herio Rehoboam, mab Solomon, pan oedd e'n ifanc ac ofnus ac heb ddigon o nerth i sefyll yn ei erbyn.