2 Cronicl 23 BNET

Gwrthryfel yn erbyn Athaleia

1 Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri.

2 Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem.

3 Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e yn teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd.

4 Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau.

5 Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD.

6 Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.

7 Rhaid i'r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i'r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”

8 Dyma'r Lefiaid a pobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd – wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.)

9 A dyma Jehoiada'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml ARGLWYDD.

10 Yna dyma fe'n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.

11 Yna dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”

12 Dyma Athaleia'n clywed sŵn y cyffro a'r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi'n mynd atyn nhw i'r deml.

13 Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'i hofferynnau yn arwain y dathlu.Pan welodd hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”

14 Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml.

15 Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.

Jehoiada'r offeiriad yn newid pethau

16 Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhyngddo'i hun, y bobl, a'r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD.

17 Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.

18 Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i'r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i'w llosgi i'r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a'r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu.

19 Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.

20 Yna dyma fe'n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a'r swyddogion. A dyma'r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o'r deml i'r palas drwy'r Giât Uchaf. A dyma nhw'n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd.

21 Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36