2 Cronicl 31 BNET

Diwygiadau Crefyddol Heseceia

1 Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol trwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain.

2 Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.

3 Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi eu pennu yn y Gyfraith.

4 Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud.

5 Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth.

6 Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi ei osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau.

7 Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen.

8 Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel.

9 Yna dyma Heseceia'n holi'r offeiriaid a'r Lefiaid am y pentyrrau.

10 A dyma Asareia yr archoffeiriad, o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i'r bobl ddechrau dod â rhoddion i'r deml dŷn ni wedi cael digonedd i'w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio ei bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.”

11 Felly dyma Heseceia'n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n gwneud felly,

12 a dod â'r offrymau, y degymau, a'r pethau oedd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD. Un o'r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a'i frawd Shimei yn ddirprwy iddo.

13 Yna dyma'r brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw.

14 Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi eu cysegru.

15 Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd.

16 Roedd pob gwryw oedd dros dair mlwydd oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi.

17 Hefyd yr offeiriaid oedd wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed oedd wedi eu rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau.

18 A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a cysegru eu hunain.

19 Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr.

20 Trefnodd y brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd trwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.

21 Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i'r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36