2 Cronicl 30 BNET

Paratoadau i ddathlu'r Pasg

1 Dyma Heseceia yn anfon neges allan drwy Israel a Jwda gyfan. Anfonodd lythyrau at lwythau Effraim a Manasse hefyd. Roedd yn galw pawb i ddod i'r deml yn Jerwsalem i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel.

2 Roedd y brenin wedi cytuno gyda'r arweinwyr a phobl Jerwsalem i gadw'r Pasg yn yr ail fis.

3 Roedden nhw'n methu ei gadw ar yr adeg iawn am fod dim digon o offeiriad wedi bod trwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a doedd y bobl ddim wedi cael cyfle i ddod i Jerwsalem.

4 Felly roedd y brenin a'r bobl yn meddwl mai dyma'r cynllun gorau.

5 Dyma nhw'n anfon neges allan drwy Israel gyfan, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Roedd pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Doedden nhw ddim wedi bod yn cadw'r Pasg fel Gŵyl genedlaethol, fel roedd y Gyfraith yn dweud.

6 Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:“Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria.

7 Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld.

8 Peidiwch bod yn ystyfnig fel eich tadau. Byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a dewch i'r deml sydd wedi ei chysegru ganddo am byth. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, iddo stopio bod mor ddig gyda chi.

9 Os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a'ch perthnasau'n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw'n eu hanfon yn ôl i'r wlad yma. Mae'r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi'n ôl ato fe.”

Dathlu Gŵyl y Pasg

10 Aeth y negeswyr i bob tref yn Effraim a Manasse, cyn belled a Sabulon. Ond roedd y bobl yn chwerthin a gwneud hwyl ar eu pennau.

11 Dim ond rhai pobl o Asher, Manasse a Sabulon wnaeth ufuddhau a mynd i Jerwsalem.

12 Yn Jwda, roedd Duw wedi creu awydd yn y bobl i gyd i ufuddhau i'r brenin a'r swyddogion oedd wedi gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei orchymyn.

13 Felly yn yr ail fis daeth tyrfa enfawr o bobl i Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw.

14 A dyma nhw'n mynd ati i gael gwared â'r allorau oedd yn Jerwsalem, a taflu'r holl allorau i losgi arogldarth i ddyffryn Cidron.

15 Cafodd oen y Pasg ei ladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Cododd hyn gywilydd ar yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dyma nhw'n mynd ati i gysegru eu hunain i fynd i deml yr ARGLWYDD i gyflwyno offrymau llosg.

16 Dyma nhw'n sefyll yn eu lleoedd cywir, fel roedd cyfraith Moses, dyn Duw, yn dweud. Yna roedd yr offeiriaid yn derbyn gwaed yr anifeiliaid gan y Leifiaid a'i sblasio o gwmpas yr allor.

17 Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain.

18 Roedd y mwyafrif o bobl Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon yn aflan, ac heb fod trwy'r ddefod o buro eu hunain. Er hynny dyma nhw'n bwyta o'r Pasg yn groes i beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud. Ond dyma Heseceia'n gweddïo drostyn nhw, “Boed i'r ARGLWYDD da, faddau

19 i bawb sydd wir am ddilyn eu Duw, sef yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, er nad ydyn nhw wedi cysegru eu hunain fel mae defod puro'r deml yn gofyn.”

20 A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Heseceia, a iacháu'r bobl.

21 Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd.

22 Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

23 Yna dyma pawb yn cytuno i gadw'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Felly dyma nhw dal ati i ddathlu'n llawen am wythnos arall.

24 Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil a ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro eu hunain.

25 Roedd pobl Jwda yno, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl bobl oedd wedi dod o Israel, a'r mewnfudwyr oedd wedi dod o Israel i fyw yn Jwda – roedd pawb yno'n dathlu gyda'i gilydd.

26 Hwn oedd y dathliad mwyaf fuodd yn Jerwsalem ers pan oedd Solomon fab Dafydd yn frenin ar Israel.

27 Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn sefyll i fendithio'r bobl. Clywodd yr ARGLWYDD nhw o'i le sanctaidd yn y nefoedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36