2 Cronicl 7 BNET

Cysegru'r Deml

1 Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.

2 Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml.

3 Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud,“Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”

4 Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.

5 Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw.

6 Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi eu gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra roedd y dyrfa yn sefyll.

7 Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.

8 Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a cadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.

9 Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall.

10 Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel.

Duw yn siarad â Solomon

11 Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a palas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau ei wneud i'r deml a'r palas.

12 A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno.

13 Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint,

14 os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.

15 “Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma.

16 Dw i wedi dewis a cysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser.

17 “Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi.

18 Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’

19 “Ond os byddwch chi yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,

20 yna bydda i yn eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi ei roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb.

21 Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych – bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’

22 A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36