2 Cronicl 3 BNET

Dechrau adeiladu'r Deml

1 Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd.

2 Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin.

3 A dyma fesuriadau sylfaeni'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio.)

4 Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

5 Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni.

6 Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm

7 i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau.

8 Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur.

9 Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd.

10 Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau geriwb a'i gorchuddio nhw gydag aur.

11 Roedd adenydd y ddau geriwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y ceriwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.

12 Wedyn roedd aden arall yr ail geriwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml.

13 Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn.

14 Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o geriwbiaid wedi ei frodio arno.

15 O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau.

16 Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni.

17 Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachin a'r un oedd ar y chwith yn Boas.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36