2 Cronicl 17 BNET

Jehosaffat yn frenin Jwda

1 Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel.

2 Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi ei hennill oddi ar Effraim.

3 Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal.

4 Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion, yn wahanol i bobl Israel.

5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato.

6 Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â'r holl allorau lleol a polion y dduwies Ashera o Jwda.

7 Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaïl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia.

8 Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd.

9 Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD.

10 Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat.

11 Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr.

12 Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda.

13 Roedd ganddo lot fawr wedi ei gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem.

14 Roedd y rhain wedi eu rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn:Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda:Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.

15 Yna Iehochanan – yn gapten ar ddau gant wyth deg o filoedd.

16 Yna Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) – roedd dau gan mil o filwyr profiadol, dewr gydag e.

17 Wedyn o lwyth Benjamin:Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd dau gan mil o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.

18 Yna Iehosafad – gyda cant wyth deg o filoedd o filwyr arfog.

19 Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu'r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi eu gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36