8 “A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi'n llu mawr gyda'r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi.
9 Ond dych chi wedi cael gwared a'r offeiriaid, meibion Aaron a'r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi'ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy'n dod i gysegru ei hunan gyda tarw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i'r duw sydd ddim yn dduw.
10 Ond ein Duw ni ydy'r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy'n hoffeiriaid sy'n ei wasanaethu, a'r Lefiaid yn eu helpu.
11 Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho.
12 Sylwch, Duw ydy'n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy'n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.”
13 Dyma Jeroboam yn anfon rhai o'i filwyr i fod yn barod i ymosod o'r tu cefn i fyddin Jwda. Felly tra roedd e'n wynebu Jwda, roedd eraill yn barod i ymosod o'r tu cefn.
14 Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai'n rhaid iddyn nhw ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl, a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r offeiriad yn canu'r utgyrn,