1 Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd.
2 Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio'r ARGLWYDD.
3 Dyma fe'n cael gwared â'r allorau paganaidd a'r temlau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera.
4 Dyma fe'n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a cadw ei ddysgeidiaeth a'i orchmynion.
5 Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin.