12 Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.”
13 Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.”
14 Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?”A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!”
15 Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?”
16 A dyma Michea'n dweud,“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,fel defaid heb fugail.A dyma'r ARGLWYDD yn dweud,‘Does ganddyn nhw ddim meistri.Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
17 Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
18 A dyma Michea'n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.