16 A dyma Michea'n dweud,“Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau,fel defaid heb fugail.A dyma'r ARGLWYDD yn dweud,‘Does ganddyn nhw ddim meistri.Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
17 Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
18 A dyma Michea'n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.
19 A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a cael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol.
20 Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’
21 “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai.“A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’
22 Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”