31 Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dyma'r ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho.
32 Roedden nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo.
33 Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”
34 Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos, wrth i'r haul fachlud, dyma fe'n marw.