8 Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl.
9 Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll.
10 Pan fydd eich pobl sy'n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â'r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a'ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi'n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog.
11 Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda popeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!”