8 Ac mae gen ti weision sy'n arbenigo mewn trin coed yn Libanus. Felly anfon goed i mi hefyd – cedrwydd, pinwydd, a pren algwm. Gall y gweithwyr sydd gen i helpu dy weithwyr di
9 i gasglu digonedd o goed i mi, achos mae'r deml dw i'n mynd i'w hadeiladu yn mynd i fod yn un fawr, wych.
10 Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed – dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.”
11 Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.”
12 Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a palas brenhinol iddo'i hun.
13 Dw i'n mynd i anfon crefftwr sy'n feistr yn ei waith atat ti, sef Huram-afi.
14 Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad.