10 Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio eu difa.
11 Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni.
12 Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.”
13 Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda'i babis bach, eu gwragedd a'u plant.
14 Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o'r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia).
15 Dyma fe'n dweud,“Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a peidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
16 Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw'n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw'r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel.