17 Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na panicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’”
18 Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli'r ARGLWYDD.
19 Yna dyma'r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau.
20 Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw'n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio'r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.”
21 Ar ôl trafod gyda'r bobl dyma fe'n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu,“Diolchwch i'r ARGLWYDD;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
22 Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma'r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a'u trechu nhw.
23 Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd.